Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 18:25-50

Salm 18:25-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Rwyt ti’n ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon, ac yn deg â’r rhai di-euog. Mae’r rhai di-fai yn dy brofi’n ddi-fai, ond rwyt ti’n fwy craff na’r rhai anonest. Ti’n achub pobl sy’n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch. Ie, ti sy’n cadw fy lamp yn llosgi, o ARGLWYDD; fy Nuw sy’n rhoi golau i mi yn y tywyllwch. Gyda ti gallaf ruthro allan i’r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw! Mae Duw yn gwneud beth sy’n iawn; mae’r ARGLWYDD yn dweud beth sy’n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy’n troi ato. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i’n Duw ni? Fe ydy’r Duw sy’n rhoi nerth i mi – mae’n symud pob rhwystr o’m blaen. Mae’n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel. Dysgodd fi sut i ymladd – dw i’n gallu plygu bwa o bres! Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian; mae dy law gref yn fy nghynnal. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu. Es ar ôl fy ngelynion, a’u dal nhw; wnes i ddim troi’n ôl nes roedden nhw wedi darfod. Dyma fi’n eu taro nhw i lawr, nes eu bod yn methu codi; roeddwn i’n eu sathru nhw dan draed. Ti roddodd y nerth i mi ymladd; ti wnaeth i’r gelyn blygu o’m blaen. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr. Roedden nhw’n galw am help, ond doedd neb i’w hachub! Roedden nhw’n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb. Dyma fi’n eu malu nhw’n llwch i’w chwythu i ffwrdd gan y gwynt; a’u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi’n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod. Maen nhw’n plygu wrth glywed amdana i – ie, estroniaid yn crynu o’m blaen! Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o’u cuddfannau. Ydy, mae’r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy’n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! Fe ydy’r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o’m blaen. Fe ydy’r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a’m cipio o afael y rhai sy’n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. Felly, O ARGLWYDD, bydda i’n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw: mae’n rhoi buddugoliaeth i’w frenin – un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae’n aros yn ffyddlon i’w eneiniog – i Dafydd, ac i’w ddisgynyddion am byth.

Salm 18:25-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r difeius, ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo. Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni, y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius? Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm cynnal â'th ddeheulaw, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal. Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed. Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal; ni ddychwelaf nes eu difetha. Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed. Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion odanaf. Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu. Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb. Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt, a'u sathru fel llaid ar y strydoedd. Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi. Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi, ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen. Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches. Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig; dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu, y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd odanaf, sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw. Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth, ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth.

Salm 18:25-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel. Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr ARGLWYDD fy NUW a lewyrcha fy nhywyllwch. Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy NUW y llemais dros fur. DUW sydd berffaith ei ffordd: gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. Canys pwy sydd DDUW heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein DUW ni? DUW sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith. Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla. Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed. Erlidiais fy ngelynion, ac a’u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed. Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn. Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr ARGLWYDD, ond nid atebodd efe hwynt. Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd. Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant. Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi. Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau. Byw yw yr ARGLWYDD, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth. DUW sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf. Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws. Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth.