Salm 18:20-27
Salm 18:20-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn; mae fy nwylo’n lân ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg. Dw i wedi cadw ei ddeddfau’n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau. Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn. Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo’n lân. Rwyt ti’n ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon, ac yn deg â’r rhai di-euog. Mae’r rhai di-fai yn dy brofi’n ddi-fai, ond rwyt ti’n fwy craff na’r rhai anonest. Ti’n achub pobl sy’n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch.
Salm 18:20-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni; yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu. Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r difeius, ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion.
Salm 18:20-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. Canys cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW. Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef. A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.