Salm 18:19-21
Salm 18:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi. Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni
Salm 18:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi. Mae’r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn; mae fy nwylo’n lân ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
Salm 18:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi. Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni
Salm 18:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof. Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. Canys cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.