Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 18:1-24

Salm 18:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i’n dy garu di, ARGLWYDD; ti sy’n rhoi nerth i mi. Mae’r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani, yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. Galwais ar yr ARGLWYDD sy’n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion. Rôn i’n boddi dan donnau marwolaeth; roedd llifogydd dinistr yn fy llethu. Roedd rhaffau byd y meirw o’m cwmpas, a maglau marwolaeth o’m blaen. Galwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a chlywodd fy llais; gwrandawodd arna i’n galw. Yna, dyma’r ddaear yn symud a chrynu. Roedd sylfeini’r mynyddoedd yn crynu ac yn ysgwyd am ei fod wedi digio. Daeth mwg allan o’i ffroenau, a thân dinistriol o’i geg; roedd marwor yn tasgu ohono. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr. Roedd cwmwl trwchus dan ei draed. Marchogai ar gerwbiaid yn hedfan, a chodi ar adenydd y gwynt. Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto – cymylau duon stormus, a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o’i gwmpas. Roedd golau disglair o’i flaen; saethodd mellt o’r cymylau, cenllysg a marwor tanllyd. Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr – sŵn llais y Goruchaf yn galw. Taflodd ei saethau a chwalu’r gelyn; roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo. Daeth gwely’r môr i’r golwg; ac roedd sylfeini’r ddaear yn noeth wrth i ti ruo, O ARGLWYDD, a chwythu anadl o dy ffroenau. Estynnodd i lawr o’r uchelder a gafael ynof; tynnodd fi allan o’r dŵr dwfn. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig, a’r rhai sy’n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi. Dyma nhw’n ymosod pan oeddwn mewn helbul, ond dyma’r ARGLWYDD yn fy helpu i. Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi. Mae’r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn; mae fy nwylo’n lân ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg. Dw i wedi cadw ei ddeddfau’n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau. Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn. Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo’n lân.

Salm 18:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder. Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer. Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion. Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanaf a llifeiriant distryw yn fy nal, pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen, gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau. Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef. Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd tân yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed. Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan, a chymylau duon yn orchudd. O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau, a chenllysg a cherrig tân. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau. Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi. Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi. Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni; yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu. Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.

Salm 18:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid. Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef. Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio. Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo. Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef. Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt. Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd. Yr ARGLWYDD hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd. Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt. Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chan chwythad anadl dy ffroenau. Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer. Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi. Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi. Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof. Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. Canys cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW. Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.