Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 17:1-15

Salm 17:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O ARGLWYDD, dw i’n gofyn am gyfiawnder. Gwranda arna i’n galw arnat ti. Clyw fy ngweddi, sy’n gwbl ddidwyll. Ti sy’n gallu rhoi cyfiawnder i mi. Mae dy lygaid yn gweld y gwir. Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau, fy mhwyso a’m mesur a chael dim byd o’i le. Dw i’n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di. Dw i’n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud, ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti’n ddweud, ac wedi cadw draw oddi wrth ffyrdd lladron. Dw i wedi dilyn dy lwybrau di, a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl. Dw i’n galw arnat ti, achos byddi di’n ateb, O Dduw. Gwranda arna i. Clyw beth dw i’n ddweud. Dangos mor ffyddlon wyt ti drwy wneud pethau rhyfeddol! Ti sy’n gallu achub y rhai sy’n troi atat i’w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr. Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad. Cuddia fi dan gysgod dy adenydd. Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy’n ymosod arna i, y gelynion o’m cwmpas sydd eisiau fy lladd. Maen nhw’n gwbl ddidrugaredd! Maen nhw mor falch wrth gega! Maen nhw wedi fy amgylchynu i, ac maen nhw am fy mwrw i’r llawr. Maen nhw fel llew yn edrych am ysglyfaeth, neu lew ifanc yn llechu o’r golwg. Cod, ARGLWYDD! Dos allan yn eu herbyn. Taro nhw i lawr gyda dy gleddyf! Achub fi rhag y rhai drwg; achub fi o afael y llofruddion, ARGLWYDD! Lladd nhw! Paid gadael iddyn nhw fyw! Ond i’r rhai sy’n werthfawr yn dy olwg – rwyt yn llenwi eu boliau, mae eu plant yn cael eu bodloni a byddan nhw’n gadael digonedd i’w rhai bach. Caf gyfiawnder, a bydda i’n gweld dy wyneb! Pan fyddaf yn deffro, bydd dy weld yn ddigon i mi!

Salm 17:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Clyw, ARGLWYDD, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O DDUW: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. Dangos dy ryfedd drugareddau, O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. Cyfod, ARGLWYDD, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; Rhag dynion, y rhai yw dy law, O ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.