Salm 16:1-11
Salm 16:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti yw f'arglwydd, nid oes imi ddaioni ond ynot ti.” Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad, melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt. Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill; ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm, na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau. Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan; syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol. Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi. Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir. Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol, ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw. Dangosi i mi lwybr bywyd; yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd, ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.
Salm 16:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cadw fi, O DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf. Fy enaid, dywedaist wrth yr ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. Yr ARGLWYDD yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. Bendithiaf yr ARGLWYDD, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. Gosodais yr ARGLWYDD bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.