Salm 149:1-9
Salm 149:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Molwch yr ARGLWYDD. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid. Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin. Molwch ei enw â dawns, canwch fawl iddo â thympan a thelyn. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl; y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig. Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant, a llawenhau ar eu clustogau. Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu llaw i weithredu dial ar y cenhedloedd a cherydd ar y bobloedd; i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau, a'u pendefigion â gefynnau haearn; i weithredu'r farn a nodwyd ar eu cyfer. Ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid. Molwch yr ARGLWYDD.
Salm 149:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Haleliwia! Canwch gân newydd i’r ARGLWYDD, Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o’i bobl ffyddlon. Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr! Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin! Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns; ac ar y drwm a’r delyn fach. Achos mae’r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda’i bobl! Mae’n gwisgo’r rhai sy’n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth. Boed i’r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu, a gweiddi’n llawen wrth orffwys ar eu clustogau. Canu mawl i Dduw gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo, yn barod i gosbi’r cenhedloedd, a dial ar y bobloedd. Gan rwymo’u brenhinoedd â chadwyni, a’u pobl bwysig mewn hualau haearn. Dyma’r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw; a’r fraint fydd i’r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon. Haleliwia!
Salm 149:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Molwch yr ARGLWYDD. Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. Oherwydd hoffodd yr ARGLWYDD ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. Bydded ardderchog foliant DUW yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr ARGLWYDD.