Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 149

149
SALM 149
1Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.
2Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.
3Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.
4Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
5Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.
6Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;
7I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;
8I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn;
9I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 149: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda