Salm 147:7-11
Salm 147:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw â'r delyn. Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl. Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran. Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr; ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni, y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
Salm 147:7-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Canwch gân o fawl i’r ARGLWYDD, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach. Mae’n gorchuddio’r awyr gyda chymylau, ac yn rhoi glaw i’r ddaear. Mae’n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd, yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt, ac i gywion y gigfran pan maen nhw’n galw. Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno, a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu. Y bobl sy’n ei barchu sy’n plesio’r ARGLWYDD; y rhai hynny sy’n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.
Salm 147:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw â'r delyn. Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl. Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran. Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr; ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni, y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
Salm 147:7-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn; Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.