Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 147

147
Moli’r Duw sydd mor gryf
Haleliwia!
1Mae mor dda canu mawl i Dduw!
Mae’n beth hyfryd rhoi iddo’r mawl mae’n ei haeddu.
2Mae’r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem,
ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion.
3Mae e’n iacháu’r rhai sydd wedi torri eu calonnau,
ac yn rhwymo’u briwiau.
4Mae e wedi cyfri’r sêr i gyd,
a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
5Mae’n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf!
Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw!
6Mae’r ARGLWYDD yn rhoi hyder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu,
ond yn bwrw’r rhai drwg i’r llawr.
7Canwch gân o fawl i’r ARGLWYDD,
a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach.
8Mae’n gorchuddio’r awyr gyda chymylau,
ac yn rhoi glaw i’r ddaear.
Mae’n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd,
9yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt,
ac i gywion y gigfran pan maen nhw’n galw.
10Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno,
a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu.
11Y bobl sy’n ei barchu sy’n plesio’r ARGLWYDD;
y rhai hynny sy’n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.
12O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD!
O Seion, mola dy Dduw!
13Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf,
ac wedi bendithio dy blant o dy fewn.
14Mae’n gwneud dy dir yn ddiogel,
ac yn rhoi digonedd o’r ŷd gorau i ti.
15Mae’n anfon ei orchymyn drwy’r ddaear,
ac mae’n cael ei wneud ar unwaith.
16Mae’n anfon eira fel gwlân,
yn gwasgaru barrug fel lludw,
17ac yn taflu cenllysg fel briwsion.
Pwy sy’n gallu goddef yr oerni mae’n ei anfon?
18Wedyn mae’n gorchymyn i’r cwbl feirioli –
mae’n anadlu arno ac mae’r dŵr yn llifo.
19Mae wedi rhoi ei neges i Jacob,
ei ddeddfau a’i ganllawiau i bobl Israel.
20Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall;
dŷn nhw’n gwybod dim am ei reolau.
Haleliwia!

Dewis Presennol:

Salm 147: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd