Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 147:1-20

Salm 147:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Molwch yr ARGLWYDD. Da yw canu mawl i'n Duw ni, oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl. Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem, y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel. Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. Y mae'n pennu nifer y sêr, ac yn rhoi enwau arnynt i gyd. Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth; y mae ei ddoethineb yn ddifesur. Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig, ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr. Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw â'r delyn. Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl. Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran. Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr; ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni, y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad. Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem; mola dy Dduw, O Seion, oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth, a bendithiodd dy blant o'th fewn. Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau, ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau. Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear, ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym. Y mae'n rhoi eira fel gwlân, yn taenu barrug fel lludw, ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion; pwy a all ddal ei oerni ef? Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi; gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd. Y mae'n mynegi ei air i Jacob, ei ddeddfau a'i farnau i Israel; ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl, na dysgu iddynt ei farnau. Molwch yr ARGLWYDD.

Salm 147:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae mor dda canu mawl i Dduw! Mae’n beth hyfryd rhoi iddo’r mawl mae’n ei haeddu. Mae’r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem, ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion. Mae e’n iacháu’r rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo’u briwiau. Mae e wedi cyfri’r sêr i gyd, a rhoi enw i bob un ohonyn nhw. Mae’n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf! Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw! Mae’r ARGLWYDD yn rhoi hyder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, ond yn bwrw’r rhai drwg i’r llawr. Canwch gân o fawl i’r ARGLWYDD, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach. Mae’n gorchuddio’r awyr gyda chymylau, ac yn rhoi glaw i’r ddaear. Mae’n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd, yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt, ac i gywion y gigfran pan maen nhw’n galw. Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno, a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu. Y bobl sy’n ei barchu sy’n plesio’r ARGLWYDD; y rhai hynny sy’n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon. O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD! O Seion, mola dy Dduw! Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf, ac wedi bendithio dy blant o dy fewn. Mae’n gwneud dy dir yn ddiogel, ac yn rhoi digonedd o’r ŷd gorau i ti. Mae’n anfon ei orchymyn drwy’r ddaear, ac mae’n cael ei wneud ar unwaith. Mae’n anfon eira fel gwlân, yn gwasgaru barrug fel lludw, ac yn taflu cenllysg fel briwsion. Pwy sy’n gallu goddef yr oerni mae’n ei anfon? Wedyn mae’n gorchymyn i’r cwbl feirioli – mae’n anadlu arno ac mae’r dŵr yn llifo. Mae wedi rhoi ei neges i Jacob, ei ddeddfau a’i ganllawiau i bobl Israel. Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall; dŷn nhw’n gwybod dim am ei reolau. Haleliwia!

Salm 147:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Molwch yr ARGLWYDD: canys da yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl. Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel. Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau. Mawr yw ein HARGLWYDD, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall. Yr ARGLWYDD sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr. Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn; Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef. Jerwsalem, mola di yr ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW. Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn. Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith. Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan. Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw. Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef? Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant. Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel. Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.