Salm 146:1-10
Salm 146:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Haleliwia! Mola’r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun! Dw i’n mynd i foli’r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd, a chanu mawl i’m Duw tra dw i’n bodoli! Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu – dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub. Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben! Mae’r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi’i fendithio’n fawr, yr un sy’n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw – y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Mae e bob amser yn cadw ei air, yn rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, a bwyd i’r rhai newynog. Mae’r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd. Mae’r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall. Mae’r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi’u plygu drosodd sefyll yn syth. Mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn. Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyr ac yn cynnal y plant amddifad a’r gweddwon. Ond mae e’n gwneud i’r rhai drwg golli eu ffordd. Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth; dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau. Haleliwia!
Salm 146:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola'r ARGLWYDD. Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw, canaf fawl i'm Duw tra byddaf. Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion, mewn unrhyw un na all waredu; bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear, a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau. Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo, ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw, creawdwr nefoedd a daear a'r môr, a'r cyfan sydd ynddynt. Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth, ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig; y mae'n rhoi bara i'r newynog. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion; y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion, ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng; y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus. Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu hyd byth, a'th Dduw di, O Seion, dros y cenedlaethau. Molwch yr ARGLWYDD.
Salm 146:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola di yr ARGLWYDD. Molaf yr ARGLWYDD yn fy myw: canaf i’m DUW tra fyddwyf. Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. Gwyn ei fyd yr hwn y mae DUW Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW: Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth, sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr ARGLWYDD.