Salm 142:3-6
Salm 142:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan yw fy ysbryd yn pallu, yr wyt ti'n gwybod fy llwybr. Ar y llwybr a gerddaf y maent wedi cuddio magl. Edrychaf i'r dde, a gweld nad oes neb yn gyfaill imi; nid oes dihangfa imi, na neb yn malio amdanaf. Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD; dywedais, “Ti yw fy noddfa, a'm rhan yn nhir y rhai byw.” Gwrando ar fy nghri, oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel; gwared fi oddi wrth fy erlidwyr, oherwydd y maent yn gryfach na mi.
Salm 142:3-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan dw i wedi anobeithio’n llwyr, rwyt ti’n gwylio pa ffordd dw i’n mynd. Maen nhw wedi cuddio magl ar y llwybr o mlaen i. Dw i’n edrych i’r dde – ond does neb yn cymryd sylw ohono i. Mae dianc yn amhosib – does neb yn poeni amdana i. Dw i’n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD; a dweud, “Ti ydy’r unig le saff i mi fynd, does gen i neb arall ar dir y byw!” Gwranda arna i’n gweiddi, dw i’n teimlo mor isel. Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl; maen nhw’n rhy gryf i mi.
Salm 142:3-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl. Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid. Llefais arnat, O ARGLWYDD; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw. Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.