Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl. Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid. Llefais arnat, O ARGLWYDD; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw. Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.
Darllen Y Salmau 142
Gwranda ar Y Salmau 142
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 142:3-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos