Salm 139:3-16
Salm 139:3-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ti’n cadw golwg arna i’n teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti’n gwybod am bopeth dw i’n wneud. Ti’n gwybod beth dw i’n mynd i’w ddweud cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD. Rwyt ti yna o mlaen i a’r tu ôl i mi, mae dy law di arna i i’m hamddiffyn. Ti’n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi – mae’n ddirgelwch llwyr, mae’n ormod i mi ei ddeall. Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd? I ble alla i ddianc oddi wrthot ti? Petawn i’n mynd i fyny i’r nefoedd, rwyt ti yno; petawn i’n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto! Petawn i’n hedfan i ffwrdd gyda’r wawr ac yn mynd i fyw dros y môr, byddai dy law yno hefyd, i’m harwain; byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi. Petawn i’n gofyn i’r tywyllwch fy nghuddio, ac i’r golau o’m cwmpas droi’n nos, dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti! Mae’r nos yn olau fel y dydd i ti; mae goleuni a thywyllwch yr un fath! Ti greodd fy meddwl a’m teimladau; a’m plethu i yng nghroth fy mam. Dw i’n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol! Mae’r cwbl rwyt ti’n ei wneud yn anhygoel! Ti’n fy nabod i i’r dim! Roeddet ti’n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i’n cael fy siapio yn y dirgel, ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear. Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i! Roedd hyd fy mywyd wedi’i drefnu – pob diwrnod wedi’i gofnodi yn dy lyfr, a hynny cyn i un fynd heibio!
Salm 139:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys, ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd. Oherwydd nid oes air ar fy nhafod heb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd. Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen, ac wedi gosod dy law drosof. Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi; y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd. I ble yr af oddi wrth dy ysbryd? I ble y ffoaf o'th bresenoldeb? Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno; os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd. Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr, yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a'th ddeheulaw yn fy nghynnal. Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio, a'r nos yn cau amdanaf”, eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti; y mae'r nos yn goleuo fel dydd, a'r un yw tywyllwch a goleuni. Ti a greodd fy ymysgaroedd, a'm llunio yng nghroth fy mam. Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda; ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel, ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear. Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt.
Salm 139:3-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a’i gwyddost oll. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi. I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd? Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw. Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch. Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti. Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.