Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 139

139
SALM 139
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi.
2Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.
3Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
4Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll.
5Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
6Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
7I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd?
8Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
9Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
10Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw.
11Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch.
12Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
13Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
14Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda.
15Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear.
16Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.
17Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!
18Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
19Yn ddiau, O Dduw, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:
20Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer.
21Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn?
22A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
23Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;
24A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.

Dewis Presennol:

Y Salmau 139: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda