Salm 139:13-18
Salm 139:13-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ti greodd fy meddwl a’m teimladau; a’m plethu i yng nghroth fy mam. Dw i’n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol! Mae’r cwbl rwyt ti’n ei wneud yn anhygoel! Ti’n fy nabod i i’r dim! Roeddet ti’n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i’n cael fy siapio yn y dirgel, ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear. Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i! Roedd hyd fy mywyd wedi’i drefnu – pob diwrnod wedi’i gofnodi yn dy lyfr, a hynny cyn i un fynd heibio! O Dduw, mae dy feddyliau di’n rhy ddwfn i mi; mae gormod ohonyn nhw i’w deall! Petawn i’n ceisio’u cyfri nhw, byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod! Bob tro dw i’n deffro rwyt ti’n dal yna gyda mi!
Salm 139:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ti a greodd fy ymysgaroedd, a'm llunio yng nghroth fy mam. Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda; ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel, ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear. Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt. Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw, ac mor lluosog eu nifer! Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod, a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.
Salm 139:13-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt! Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.