Salm 137:1-5
Salm 137:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion. Ar yr helyg yno bu inni grogi ein telynau, oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân, a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch. “Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.” Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD mewn tir estron? Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth
Salm 137:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth afonydd Babilon, dyma ni’n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion. Dyma ni’n hongian ein telynau ar y coed poplys yno. Roedd y rhai oedd yn ein dal ni’n gaeth eisiau i ni ganu, a’n poenydwyr yn ein piwsio i’w difyrru: “Canwch un o ganeuon Seion i ni!” Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron? Os anghofia i di, Jerwsalem, boed i’m llaw dde gael ei pharlysu.
Salm 137:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. Pa fodd y canwn gerdd yr ARGLWYDD mewn gwlad ddieithr? Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.