Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 137

137
SALM 137
1Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.
2Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau.
3Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
4Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?
5Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.
6Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf.
7Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.
8O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau.
9Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.

Dewis Presennol:

Y Salmau 137: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda