Salm 127:1-2
Salm 127:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ, y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer. Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas, y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer. Yn ofer y codwch yn fore, a mynd yn hwyr i orffwyso, a llafurio am y bwyd a fwytewch; oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu.
Rhanna
Darllen Salm 127Salm 127:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.
Rhanna
Darllen Salm 127