Salm 12:1-8
Salm 12:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar ôl, a darfu am y ffyddloniaid o blith pobl. Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog, y maent yn gwenieithio wrth siarad â'i gilydd. Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithus a'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar, y rhai sy'n dweud, “Yn ein tafod y mae ein nerth; y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?” “Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd, codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD, “rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.” Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur: arian wedi ei goethi mewn ffwrnais, aur wedi ei buro seithwaith. Tithau, ARGLWYDD, cadw ni, gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon, am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw, a llygredd yn uchaf ymysg pobl.
Salm 12:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Help, ARGLWYDD! Does neb ffyddlon ar ôl! Mae’r rhai sy’n driw wedi diflannu. Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd; maen nhw’n seboni ond yn ddauwynebog. Boed i’r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals, a rhoi taw ar bob tafod sy’n brolio! “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw. “Gallwn ddweud beth leiciwn ni! Dŷn ni’n atebol i neb!” Ond meddai’r ARGLWYDD: “Am fod yr anghenus yn dioddef trais, a’r tlawd yn griddfan mewn poen, dw i’n mynd i weithredu. Bydda i’n ei gadw’n saff; ie, dyna mae’n dyheu amdano.” Mae geiriau’r ARGLWYDD yn wir. Maen nhw fel arian wedi’i buro mewn ffwrnais bridd, neu aur wedi’i goethi’n drwyadl. Byddi’n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD, Byddwn ni’n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma sy’n cerdded o gwmpas yn falch, a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw’n eu gwneud!
Salm 12:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Achub, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. Torred yr ARGLWYDD yr holl wefusau gweneithus, a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. Geiriau yr ARGLWYDD ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.