Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 12

12
SALM 12
I’r Pencerdd ar Seminith, Salm Dafydd.
1Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.
2Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.
3Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus, a’r tafod a person ddywedo fawrhydi:
4Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?
5Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.
6Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith.
7Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
8Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 12: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda