Salm 114:5-8
Salm 114:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio, a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl? Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod, a chwithau'r bryniau, fel ŵyn? Cryna, O ddaear, ym mhresenoldeb yr Arglwydd, ym mhresenoldeb Duw Jacob, sy'n troi'r graig yn llyn dŵr a'r callestr yn ffynhonnau.
Salm 114:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth wnaeth i ti symud o’r ffordd, fôr? Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen? Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd? Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau? Cryna, ddaear, am fod yr ARGLWYDD yn dod! Mae Duw Jacob ar ei ffordd! Y Duw wnaeth droi’r graig yn bwll o ddŵr. Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint!
Salm 114:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? Ofna, di ddaear, rhag yr ARGLWYDD, rhag DUW Jacob: Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.