Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 114

114
1Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft,
tŷ Jacob o blith pobl estron eu hiaith,
2daeth Jwda yn gysegr iddo,
ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.
3Edrychodd y môr a chilio,
a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.
4Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,
a'r bryniau fel ŵyn.
5Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,
a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl?
6Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod,
a chwithau'r bryniau, fel ŵyn?
7Cryna, O ddaear, ym mhresenoldeb yr Arglwydd,
ym mhresenoldeb Duw Jacob,
8sy'n troi'r graig yn llyn dŵr
a'r callestr yn ffynhonnau.

Dewis Presennol:

Y Salmau 114: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda