Salm 114:1-4
Salm 114:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid.
Salm 114:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan aeth pobl Israel allan o’r Aifft – pan adawodd teulu Jacob y wlad lle roedden nhw’n siarad iaith estron – daeth Jwda yn dir cysegredig, ac Israel yn deyrnas iddo. Dyma’r Môr Coch yn eu gweld nhw’n dod ac yn symud o’r ffordd. Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl. Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod, a’r bryniau yn prancio fel ŵyn.
Salm 114:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft, tŷ Jacob o blith pobl estron eu hiaith, daeth Jwda yn gysegr iddo, ac Israel yn arglwyddiaeth iddo. Edrychodd y môr a chilio, a throdd yr Iorddonen yn ei hôl. Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod, a'r bryniau fel ŵyn.