Salm 107:1-43
Salm 107:1-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd ef o law'r gelyn, a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd, o'r dwyrain a'r gorllewin, o'r gogledd a'r de. Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch, heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi; yr oeddent yn newynog ac yn sychedig, ac yr oedd eu nerth yn pallu. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd hwy o'u hadfyd; arweiniodd hwy ar hyd ffordd union i fynd i ddinas i fyw ynddi. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig, a llenwi'r newynog â phethau daionus. Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew, yn gaethion mewn gofid a haearn, am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf. Llethwyd eu calon gan flinder; syrthiasant heb neb i'w hachub. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd; daeth â hwy allan o'r tywyllwch dudew, a drylliodd eu gefynnau. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw. Oherwydd torrodd byrth pres, a drylliodd farrau heyrn. Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurus a'u camwedd fe'u cystuddiwyd; aethant i gasáu pob math o fwyd, a daethant yn agos at byrth angau. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd; anfonodd ei air ac iachaodd hwy, a gwaredodd hwy o ddistryw. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch, a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd. Aeth rhai i'r môr mewn llongau, a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr; gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD, a'i ryfeddodau yn y dyfnder. Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus, a pheri i'r tonnau godi'n uchel. Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder, a phallodd eu dewrder yn y trybini; yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn, ac wedi colli eu holl fedr. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd; gwnaeth i'r storm dawelu, ac aeth y tonnau'n ddistaw; yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu, ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw. Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl, a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid. Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir; y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir, oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno. Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr, a thir sych yn ffynhonnau. Gwna i'r newynog fyw yno, a sefydlant ddinas i fyw ynddi; heuant feysydd a phlannu gwinwydd, a chânt gnydau toreithiog. Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau, ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau. Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwng trwy orthrwm, helbul a gofid, bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion, ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd. Ond bydd yn codi'r tlawd o'i ofid, ac yn gwneud ei deulu fel praidd. Bydd yr uniawn yn gweld ac yn llawenhau, ond pob un drygionus yn atal ei dafod. Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i'r pethau hyn; bydded iddynt ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
Salm 107:1-43 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Gadewch i’r rhai mae’r ARGLWYDD wedi’u gollwng yn rhydd ddweud hyn, ie, y rhai sydd wedi’u rhyddhau o afael y gelyn. Maen nhw’n cael eu casglu o’r gwledydd eraill, o’r dwyrain, gorllewin, gogledd a de. Roedden nhw’n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt, ac yn methu dod o hyd i dre lle gallen nhw fyw. Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw, ac roedden nhw wedi colli pob egni. Dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion, ac yn eu harwain nhw’n syth i le y gallen nhw setlo i lawr ynddo. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl! Mae wedi rhoi diod i’r sychedig, a bwyd da i’r rhai oedd yn llwgu. Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew, ac yn gaeth mewn cadwyni haearn, am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw, a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau. Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde. Roedden nhw’n baglu, a doedd neb i’w helpu. Yna dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion. Daeth â nhw allan o’r tywyllwch, a thorri’r rhaffau oedd yn eu rhwymo. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl! Mae wedi dryllio’r drysau pres, a thorri’r barrau haearn. Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddiodde am bechu a chamfihafio. Roedden nhw’n methu cadw eu bwyd i lawr, ac roedden nhw’n agos at farw. Ond dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion. Dyma fe’n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu, ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl! Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo, a chanu’n llawen am y cwbl mae wedi’i wneud! Aeth rhai eraill ar longau i’r môr, i ennill bywoliaeth ar y môr mawr. Cawson nhw hefyd weld beth allai’r ARGLWYDD ei wneud, y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn. Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi, ac yn gwneud i’r tonnau godi’n uchel. I fyny i’r awyr, ac i lawr i’r dyfnder â nhw! Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau. Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi, a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim. Dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion. Gwnaeth i’r storm dawelu; roedd y tonnau’n llonydd. Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu, ac aeth Duw â nhw i’r porthladd o’u dewis. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl! Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa, a’i foli o flaen yr arweinwyr. Mae e’n gallu troi afonydd yn anialwch, a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych, tir ffrwythlon yn dir diffaith am fod y bobl sy’n byw yno mor ddrwg. Neu gall droi’r anialwch yn byllau dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau! Yna rhoi pobl newynog i fyw yno, ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi. Maen nhw’n hau hadau yn y caeau ac yn plannu coed gwinwydd, ac yn cael cynhaeaf mawr. Mae’n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw, a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid. Bydd y rhai sy’n gorthrymu yn colli eu pobl, yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch. Mae Duw yn dwyn anfri ar dywysogion, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau. Ond mae’n cadw’r rhai sydd mewn angen yn saff, rhag iddyn nhw ddiodde, ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau. Mae’r rhai sy’n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu – ond mae’r rhai drwg yn gorfod tewi. Dylai’r rhai sy’n ddoeth gymryd sylw o’r pethau hyn, a myfyrio ar gariad ffyddlon yr ARGLWYDD.
Salm 107:1-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni. Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn: Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf. Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr. Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn. Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir. Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau. Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd. Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder. Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef. Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder. Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd. Yna y gwaeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau. Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant. Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid. Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir; A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo. Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr. Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu: Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog. Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau. Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni. Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd. Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd. Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn. Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.