Diarhebion 8:33-35
Diarhebion 8:33-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch ar beth dw i’n ddweud a byddwch ddoeth; peidiwch troi cefn arno. Mae’r rhai sy’n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith, maen nhw’n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd, yn disgwyl i mi ddod allan. Mae’r rhai sy’n chwilio amdana i yn cael bywyd; mae’r ARGLWYDD yn dda atyn nhw.
Diarhebion 8:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth; peidiwch â'i anwybyddu. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf, sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws, ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ. Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd, ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD
Diarhebion 8:33-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi. Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i. Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr ARGLWYDD.