Diarhebion 5:18-20
Diarhebion 5:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda’r wraig briodaist ti pan oeddet ti’n ifanc – dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i’w bronnau roi boddhad i ti, i ti ymgolli yn ei chariad bob amser. Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol? Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
Diarhebion 5:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded bendith ar dy ffynnon, a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid, ewig hoffus, iyrches ddymunol; bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser, a chymer bleser o'i chariad yn gyson. Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr, a chofleidio estrones?
Diarhebion 5:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid. Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol. A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti?