Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 5:1-19

Diarhebion 5:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti; gwrando’n ofalus ar beth dw i’n ddweud. Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn, ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth. Mae gwefusau’r wraig anfoesol yn diferu fel mêl, a’i geiriau hudol yn llyfn fel olew; Ond mae hi’n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod, ac yn finiog fel cleddyf. Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth; mae ei chamau yn arwain i’r bedd. Dydy hi’n gwybod dim am fywyd go iawn; mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny. Felly, fy mab, gwrando’n ofalus arna i, a phaid troi cefn ar beth dw i’n ddweud. Cadw draw oddi wrthi hi! Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi, rhag i ti golli pob hunan-barch, ac i’w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti. Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di, ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio’n galed amdano. Wedyn byddi’n griddfan yn y diwedd, pan fydd dy gorff wedi’i ddifetha. Byddi’n dweud, “Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint? Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd? Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon, a chymryd sylw o’r rhai oedd yn fy nysgu i? Bu bron i bopeth chwalu’n llwyr i mi, a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.” Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun, ei dŵr ffres hi, a dim un arall. Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di lifo allan i’r strydoedd? Na, cadw hi i ti dy hun, paid gadael i neb arall ei chael. Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda’r wraig briodaist ti pan oeddet ti’n ifanc – dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i’w bronnau roi boddhad i ti, i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.

Diarhebion 5:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall: Fel y gellych ystyried pwyll, a’th wefusau gadw gwybodaeth. Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew: Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog. Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a’i cherddediad a sang uffern. Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti. Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau. Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi: Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon: Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr; Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi i’th gnawd a’th gorff gurio, A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd! Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr! Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa. Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun. Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd. Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi. Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid. Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol.