Diarhebion 28:25-28
Diarhebion 28:25-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae person hunanol yn creu helynt, ond mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD yn llwyddo. Mae trystio’r hunan yn beth twp i’w wneud, ond mae’r sawl sy’n ymddwyn yn gall yn saff. Fydd dim angen ar y sawl sy’n rhoi i’r tlodion, ond mae’r un sy’n cau ei lygaid i’r angen yn cael ei felltithio go iawn. Pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio, ond pan maen nhw’n syrthio, bydd y rhai cyfiawn yn llwyddo.
Diarhebion 28:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r trachwantus yn creu cynnen, ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder. Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb. Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid. Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio, ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.
Diarhebion 28:25-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, a wneir yn fras. Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir. Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion. Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.