Diarhebion 27:1-14
Diarhebion 27:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid brolio am beth wnei di yfory, ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod. Gad i rywun arall dy ganmol di, paid ti â brolio dy hun. Mae carreg yn drom ac mae pwysau i dywod, ond mae ffŵl sy’n pryfocio yn waeth na’r ddau. Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu, ond mae cenfigen yn waeth na’r ddau. Mae cerydd gonest yn well na pheidio dangos cariad. Mae’n well cael eich brifo gan ffrind na chael eich cusanu’n ddi-baid gan rywun sy’n eich casáu. Mae rhywun sydd wedi cael digon i’w fwyta yn gwrthod mêl, ond i’r sawl sy’n llwgu, mae’r peth mwyaf chwerw yn blasu’n felys. Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartref fel aderyn wedi gadael ei nyth. Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys. Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau’r teulu, a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion. Mae ffrind sy’n agos yn well na pherthynas pell. Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi’n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy’n gwneud sbort am fy mhen. Mae’r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall; cadw hi’n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol. Mae gweiddi’n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.
Diarhebion 27:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory, oherwydd ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun; un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun. Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm, ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau. Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant, ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen? Y mae cerydd agored yn well na chariad a guddir. Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll, ond cusanau gelyn yn dwyllodrus. Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl, ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw. Fel aderyn yn crwydro o'i nyth, felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin. Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon, a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid. Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni, a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd. Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell. Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon; yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny. Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn. Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel, ac yn codi'n fore i wneud hynny, yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.
Diarhebion 27:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan. Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau. Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen? Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig. Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus. Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys. Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth. Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon. Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell. Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo. Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir. Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr. Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.