Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 20:1-30

Diarhebion 20:1-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae gwin yn gwawdio, a chwrw yn creu helynt; dydy’r rhai sy’n meddwi ddim yn ddoeth. Mae brenin sy’n bygwth fel llew yn rhuo; mae’r sawl sy’n ei wylltio yn mentro’i fywyd. Mae gwrthod ffraeo yn beth call i’w wneud, gall unrhyw ffŵl godi helynt. Os nad ydy’r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw’r cynhaeaf, fydd e’n cael dim byd. Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i’r golwg. Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw, ond pwy allwch chi ei drystio go iawn? Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest, mae ei blant wedi’u bendithio’n fawr. Mae brenin sy’n eistedd ar yr orsedd i farnu yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da. Oes unrhyw un yn gallu dweud, “Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân; dw i’n hollol lân a heb bechod”? Mae twyllo wrth bwyso a mesur yn rhywbeth sy’n gas gan yr ARGLWYDD. Mae’r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e’n gymeriad glân a gonest ai peidio. Y glust sy’n clywed a’r llygad sy’n gweld – yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy. Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd; cadw’n effro, a bydd gen ti ddigon i’w fwyta. Mae’r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” ond yna’n mynd i ffwrdd ac yn brolio’i hun am gael bargen. Mae digonedd o aur i’w gael, a pherlau hefyd; mae geiriau doeth fel gem werthfawr. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun; cadw hi’n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr. Falle fod bwyd sydd wedi’i ddwyn yn flasus, ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd. Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo; ewch i ryfel gyda strategaeth glir. Mae’r un sy’n hel clecs yn methu cadw cyfrinach; paid cael dim i’w wneud â’r llac ei dafod. Os ydy rhywun yn melltithio’i dad neu ei fam, bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew. Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd, fydd dim bendith yn y diwedd. Paid dweud, “Bydda i’n talu’r pwyth yn ôl!” Disgwyl i’r ARGLWYDD achub dy gam di. Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD; dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda. Yr ARGLWYDD sy’n trefnu’r ffordd mae rhywun yn mynd; sut all unrhyw un wybod beth sydd o’i flaen? Mae’n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll, a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud. Mae brenin doeth yn gwahanu’r drwg oddi wrth y da, ac yna’n troi’r olwyn sy’n eu dyrnu nhw. Mae’r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD, yn chwilio’n ddwfn beth sydd yn y galon. Cariad a ffyddlondeb sy’n amddiffyn y brenin, a’i gariad e sy’n ei gadw ar yr orsedd. Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc, ond gwallt gwyn sy’n rhoi urddas i bobl mewn oed. Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg, ac yn delio gyda’r person y tu mewn.

Diarhebion 20:1-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad. Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc; y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd. Clod i bob un yw gwrthod cweryla, ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn. Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael. Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion, ond gall dyn deallus ei dynnu allan. Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon? Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei ôl! Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn yn gallu nithio pob drwg â'i lygaid. Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl; yr wyf yn lân o'm pechod”? Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc a yw ei waith yn bur ac yn uniawn. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld, yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau. Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd; cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd. “Gwael iawn,” meddai'r prynwr; ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen. Y mae digonedd o aur ac o emau, ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf. Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn. Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll, ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean. Sicrheir cynlluniau trwy gyngor; rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach; paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau, ni bydd bendith ar ei diwedd. Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”; disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau, ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl; sut y gall neb ddeall ei ffordd? Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll, ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn. Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl, i chwilio i ddyfnderau eu bod. Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin, a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch. Gogoniant yr ifainc yw eu nerth, ac addurn i'r hen yw penwynni. Y mae taro i'r byw yn gwella drwg, a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.

Diarhebion 20:1-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob un o’r ddau. Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o’r ddau. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr. Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones. Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean. Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela. Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau. Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du. Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir. Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac efe a’th achub. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda. Oddi wrth yr ARGLWYDD y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun? Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn. Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt. Cannwyll yr ARGLWYDD yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol. Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd. Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn. Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.