Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 20

20
1Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. 2Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. 3Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. 4Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. 5Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. 6Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? 7Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. 8Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. 9Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? 10Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau. 11Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. 12Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau. 13Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. 14Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. 15Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr. 16Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones. 17Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean. 18Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela. 19Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau. 20Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du. 21Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir. 22Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a’th achub. 23Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda. 24Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun? 25Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn. 26Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt. 27Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol. 28Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd. 29Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn. 30Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.

Dewis Presennol:

Diarhebion 20: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda