Diarhebion 20:1-15
Diarhebion 20:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae gwin yn gwawdio, a chwrw yn creu helynt; dydy’r rhai sy’n meddwi ddim yn ddoeth. Mae brenin sy’n bygwth fel llew yn rhuo; mae’r sawl sy’n ei wylltio yn mentro’i fywyd. Mae gwrthod ffraeo yn beth call i’w wneud, gall unrhyw ffŵl godi helynt. Os nad ydy’r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw’r cynhaeaf, fydd e’n cael dim byd. Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i’r golwg. Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw, ond pwy allwch chi ei drystio go iawn? Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest, mae ei blant wedi’u bendithio’n fawr. Mae brenin sy’n eistedd ar yr orsedd i farnu yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da. Oes unrhyw un yn gallu dweud, “Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân; dw i’n hollol lân a heb bechod”? Mae twyllo wrth bwyso a mesur yn rhywbeth sy’n gas gan yr ARGLWYDD. Mae’r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e’n gymeriad glân a gonest ai peidio. Y glust sy’n clywed a’r llygad sy’n gweld – yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy. Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd; cadw’n effro, a bydd gen ti ddigon i’w fwyta. Mae’r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” ond yna’n mynd i ffwrdd ac yn brolio’i hun am gael bargen. Mae digonedd o aur i’w gael, a pherlau hefyd; mae geiriau doeth fel gem werthfawr.
Diarhebion 20:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad. Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc; y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd. Clod i bob un yw gwrthod cweryla, ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn. Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael. Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion, ond gall dyn deallus ei dynnu allan. Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon? Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei ôl! Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn yn gallu nithio pob drwg â'i lygaid. Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl; yr wyf yn lân o'm pechod”? Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc a yw ei waith yn bur ac yn uniawn. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld, yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau. Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd; cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd. “Gwael iawn,” meddai'r prynwr; ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen. Y mae digonedd o aur ac o emau, ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
Diarhebion 20:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob un o’r ddau. Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o’r ddau. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.