Diarhebion 19:15-29
Diarhebion 19:15-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae diogi yn achosi trwmgwsg; bydd y person diog yn llwgu. Mae’r sawl sy’n cadw’r gorchmynion yn cael byw, ond bydd yr un sy’n diystyru ei ffyrdd yn marw. Mae rhoi yn hael i’r tlawd fel benthyg i’r ARGLWYDD; bydd e’n talu’n ôl iddo am fod mor garedig. Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo, ond paid colli dy limpin yn llwyr. Mae’r un sy’n fyr ei dymer yn gorfod talu’r pris; os wyt am ei helpu, byddi’n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith. Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd, a byddi’n ddoeth yn y diwedd. Mae gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni. Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person; gwell bod yn dlawd na dweud celwydd. Mae parchu’r ARGLWYDD yn arwain i fywyd; mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg. Mae’r diogyn yn estyn am fwyd, ond yn rhy ddiog i’w godi at ei geg! Cura’r un sy’n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers; cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth. Mae plentyn sy’n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o’i chartref yn achos cywilydd a gwarth. Fy mab, os byddi’n stopio gwrando pan wyt ti’n cael dy gywiro, byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb. Mae tyst sy’n twyllo yn dibrisio cyfiawnder, a phobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd. Bydd y rhai sy’n gwawdio yn cael eu cosbi a’r ffyliaid yn cael eu curo.
Diarhebion 19:15-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg, ac i'r diogyn daw newyn. Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun, ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred. Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo, ond gofala beidio â'i ladd. Daw cosb ar y gwyllt ei dymer; er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto. Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd. Niferus yw bwriadau meddwl pobl, ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll. Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch, a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd, a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed. Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl, eto nid yw'n ei chodi at ei enau. Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers; os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth. Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam yn fab gwaradwyddus ac amharchus. Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd, byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth. Y mae tyst anonest yn gwatwar barn, a genau'r drygionus yn parablu camwedd. Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr, a chernodiau i gefn ynfydion.
Diarhebion 19:15-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna. Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw. Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r ARGLWYDD; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn. Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha. Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn. Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd. Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif. Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog. Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef. Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau. Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth. Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr. Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth. Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd. Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.