Diarhebion 17:15-28
Diarhebion 17:15-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dau beth sy’n gas gan yr ARGLWYDD – gollwng yr euog yn rhydd a chosbi’r dieuog. Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb. Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall? Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul. Does dim sens gan rywun sy’n cytuno i dalu dyled rhywun arall. Mae’r un sy’n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion, a’r un sy’n brolio yn gofyn am drwbwl. Fydd yr un sy’n twyllo ddim yn llwyddo; mae’r rhai sy’n edrych am helynt yn mynd i drafferthion. Mae’r un sy’n magu plentyn ffôl yn profi tristwch; does dim mwynhad i dad plentyn gwirion. Mae llawenydd yn iechyd i’r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu’r esgyrn. Person drwg sy’n derbyn breib yn dawel bach i wyrdroi cyfiawnder. Mae’r person craff yn gweld yn glir beth sy’n ddoeth, ond dydy’r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych. Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i’w dad a dolur calon i’w fam. Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn; byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest. Mae’r un sy’n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin, a’r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall. Gall hyd yn oed ffŵl sy’n cadw’n dawel gael ei ystyried yn ddoeth, a’r un sy’n cau ei geg, yn ddeallus.
Diarhebion 17:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn— y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn? Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall? Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd. Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl, ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill. Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen, a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr. Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni, a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod. Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid, ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn. Y mae calon lawen yn rhoi iechyd, ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn. Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwes i wyrdroi llwybrau barn. Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb, ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn. Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad, ac yn achos chwerwder i'w fam. Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn, ac nid iawn curo'r bonheddig. Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth, a thawel ei ysbryd yw'r deallus. Tra tawa'r ffŵl, fe'i hystyrir yn ddoeth, a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.
Diarhebion 17:15-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr ARGLWYDD ydynt ill dau. Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo? Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi. Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill. Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed. Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg. Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd. Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn. Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn. Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd. Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam. Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn. Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd. Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.