Diarhebion 16:17-33
Diarhebion 16:17-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni, a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd. Daw balchder o flaen dinistr, ac ymffrost o flaen cwymp. Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch. Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo, a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd. Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus, a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg. Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog, ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid. Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus, ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion. Y mae geiriau teg fel diliau mêl, yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth. Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio, a'i enau sy'n ei annog ymlaen. Y mae dihiryn yn cynllunio drwg; y mae fel tân poeth ar ei wefusau. Y mae rhywun croes yn creu cynnen, a'r straegar yn gwahanu cyfeillion. Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill, ac yn ei arwain ar ffordd wael. Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster, a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni. Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd; fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn. Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr, a rheoli tymer na chipio dinas. Er bwrw'r coelbren i'r arffed, oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.
Diarhebion 16:17-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae ffordd glir o flaen yr un sy’n osgoi drygioni; ac mae’r person sy’n gwylio ble mae’n mynd yn saff. Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu. Mae’n well bod yn ostyngedig gyda’r anghenus na rhannu ysbail gyda’r balch. Mae’r un sy’n gwrando ar neges Duw yn llwyddo, a’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD yn hapus. Mae’r person doeth yn cael ei gyfri’n gall, ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu. Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy’n rhoi bywyd i rywun, ond mae ffyliaid yn talu’r pris am eu ffolineb. Mae person doeth yn meddwl cyn siarad; mae ei eiriau’n dwyn perswâd. Mae geiriau caredig fel diliau mêl, yn felys eu blas ac yn iach i’r corff. Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. Mae’r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio’n galed, a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen. Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt, ac mae ei eiriau’n gwneud niwed fel tân. Mae person croes yn achosi cynnen, a’r un sy’n hel clecs yn chwalu ffrindiau. Mae person treisgar yn denu pobl, ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda. Mae’n wincio pan mae’n bwriadu twyllo, a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg. Mae gwallt gwyn fel coron hardd; mae i’w chael wrth fyw yn gyfiawn. Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas. Mae’r deis yn cael ei daflu, ond mae’r canlyniad yn llaw’r ARGLWYDD.
Diarhebion 16:17-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion. A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw! Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth. Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb. Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau. Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn. Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth. Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo. Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth. Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion. Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda. Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben. Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder. Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas. Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.