Diarhebion 16:17-19
Diarhebion 16:17-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae ffordd glir o flaen yr un sy’n osgoi drygioni; ac mae’r person sy’n gwylio ble mae’n mynd yn saff. Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu. Mae’n well bod yn ostyngedig gyda’r anghenus na rhannu ysbail gyda’r balch.
Rhanna
Darllen Diarhebion 16Diarhebion 16:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni, a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd. Daw balchder o flaen dinistr, ac ymffrost o flaen cwymp. Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch.
Rhanna
Darllen Diarhebion 16Diarhebion 16:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion.
Rhanna
Darllen Diarhebion 16