Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 16:1-33

Diarhebion 16:1-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau, ond yr ARGLWYDD sydd a’r gair olaf. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae’r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. Rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo. Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae’n ei wneud, hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr. Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch; fyddan nhw’n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi. Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill, a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg. Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio’r ARGLWYDD, mae hyd yn oed ei elynion yn troi’n ffrindiau. Mae’n well cael ychydig a byw’n iawn, na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest. Mae pobl yn gallu cynllunio beth i’w wneud, ond yr ARGLWYDD sy’n arwain y ffordd. Y brenin sy’n dweud beth ydy beth; dydy e byth yn barnu’n annheg. Mae’r ARGLWYDD eisiau clorian deg; rhaid i bob un o’r pwysau sydd yn y god fod yn gywir. Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith, am mai cyfiawnder sy’n gwneud gorsedd yn ddiogel. Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd; maen nhw’n hoffi pobl onest. Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaeth ond bydd person doeth yn gallu ei dawelu. Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd; mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur; a chael deall yn well nag arian. Mae ffordd glir o flaen yr un sy’n osgoi drygioni; ac mae’r person sy’n gwylio ble mae’n mynd yn saff. Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu. Mae’n well bod yn ostyngedig gyda’r anghenus na rhannu ysbail gyda’r balch. Mae’r un sy’n gwrando ar neges Duw yn llwyddo, a’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD yn hapus. Mae’r person doeth yn cael ei gyfri’n gall, ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu. Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy’n rhoi bywyd i rywun, ond mae ffyliaid yn talu’r pris am eu ffolineb. Mae person doeth yn meddwl cyn siarad; mae ei eiriau’n dwyn perswâd. Mae geiriau caredig fel diliau mêl, yn felys eu blas ac yn iach i’r corff. Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. Mae’r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio’n galed, a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen. Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt, ac mae ei eiriau’n gwneud niwed fel tân. Mae person croes yn achosi cynnen, a’r un sy’n hel clecs yn chwalu ffrindiau. Mae person treisgar yn denu pobl, ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda. Mae’n wincio pan mae’n bwriadu twyllo, a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg. Mae gwallt gwyn fel coron hardd; mae i’w chael wrth fyw yn gyfiawn. Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas. Mae’r deis yn cael ei daflu, ond mae’r canlyniad yn llaw’r ARGLWYDD.

Diarhebion 16:1-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pobl biau trefnu eu meddyliau, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod. Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion. Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD, a chyflawnir dy gynlluniau. Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas, hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch; y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb. Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd, a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg. Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun, gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef. Gwell ychydig gyda chyfiawnder nag enillion mawr heb farn. Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd, ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre. Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin; nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn; a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg, oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd. Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn, a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn. Y mae llid brenin yn gennad angau, ond fe'i dofir gan yr un doeth. Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd, ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. Gwell nag aur yw ennill doethineb, a gwell dewis deall nag arian. Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni, a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd. Daw balchder o flaen dinistr, ac ymffrost o flaen cwymp. Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch. Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo, a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd. Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus, a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg. Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog, ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid. Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus, ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion. Y mae geiriau teg fel diliau mêl, yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth. Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio, a'i enau sy'n ei annog ymlaen. Y mae dihiryn yn cynllunio drwg; y mae fel tân poeth ar ei wefusau. Y mae rhywun croes yn creu cynnen, a'r straegar yn gwahanu cyfeillion. Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill, ac yn ei arwain ar ffordd wael. Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster, a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni. Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd; fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn. Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr, a rheoli tymer na chipio dinas. Er bwrw'r coelbren i'r arffed, oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.

Diarhebion 16:1-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae. Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion. Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant. Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog. Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg. Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam. Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef. Ymadrodd DUW sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn. Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god. Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd. Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn. Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega. Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar. Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian. Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion. A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw! Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth. Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb. Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau. Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn. Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth. Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo. Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth. Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion. Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda. Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben. Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder. Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas. Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.