Diarhebion 16:1-16
Diarhebion 16:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau, ond yr ARGLWYDD sydd a’r gair olaf. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae’r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. Rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo. Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae’n ei wneud, hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr. Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch; fyddan nhw’n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi. Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill, a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg. Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio’r ARGLWYDD, mae hyd yn oed ei elynion yn troi’n ffrindiau. Mae’n well cael ychydig a byw’n iawn, na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest. Mae pobl yn gallu cynllunio beth i’w wneud, ond yr ARGLWYDD sy’n arwain y ffordd. Y brenin sy’n dweud beth ydy beth; dydy e byth yn barnu’n annheg. Mae’r ARGLWYDD eisiau clorian deg; rhaid i bob un o’r pwysau sydd yn y god fod yn gywir. Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith, am mai cyfiawnder sy’n gwneud gorsedd yn ddiogel. Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd; maen nhw’n hoffi pobl onest. Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaeth ond bydd person doeth yn gallu ei dawelu. Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd; mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur; a chael deall yn well nag arian.
Diarhebion 16:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pobl biau trefnu eu meddyliau, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod. Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion. Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD, a chyflawnir dy gynlluniau. Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas, hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch; y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb. Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd, a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg. Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun, gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef. Gwell ychydig gyda chyfiawnder nag enillion mawr heb farn. Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd, ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre. Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin; nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn; a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg, oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd. Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn, a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn. Y mae llid brenin yn gennad angau, ond fe'i dofir gan yr un doeth. Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd, ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. Gwell nag aur yw ennill doethineb, a gwell dewis deall nag arian.
Diarhebion 16:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae. Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion. Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant. Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog. Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg. Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam. Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef. Ymadrodd DUW sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn. Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god. Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd. Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn. Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega. Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar. Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian.