Diarhebion 14:29-33
Diarhebion 14:29-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae rheoli’ch tymer yn beth call iawn i’w wneud, ond mae colli’ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl. Mae ysbryd tawel yn iechyd i’r corff, ond cenfigen fel cancr yn pydru’r esgyrn. Mae’r un sy’n gormesu’r tlawd yn amharchu ei Grëwr, ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain, ond mae gonestrwydd y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn eu cadw nhw’n saff. Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy’n synhwyrol, ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl?
Diarhebion 14:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar, ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer. Meddwl iach yw iechyd y corff, ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen. Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu. Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun, ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw. Trig doethineb ym meddwl y deallus, ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.
Diarhebion 14:29-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef. Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.