Diarhebion 13:13-25
Diarhebion 13:13-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd pethau’n mynd yn ddrwg i’r un sy’n gwrthod cyngor, ond bydd y person sy’n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo. Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy’n rhoi bywyd, ac yn cadw rhywun rhag syrthio i faglau marwolaeth. Mae dangos tipyn o sens yn ennill ffafr, ond mae byw fel twyllwr yn arwain at ddinistr. Mae pawb call yn gwneud beth sy’n ddoeth, ond mae’r ffŵl yn dangos ei dwpdra. Mae negesydd gwael yn achosi dinistr, ond mae negesydd ffyddlon yn dod ag iachâd. Tlodi a chywilydd fydd i’r un sy’n gwrthod cael ei gywiro; ond bydd y sawl sy’n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol. Mae dymuniad wedi’i gyflawni yn beth melys, ond mae’n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg. Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl. Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid, ond bydd bywyd yn dda i’r rhai sy’n byw’n gyfiawn. Mae person da yn gadael etifeddiaeth i’w wyrion a’i wyresau, ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i’r rhai sy’n byw’n gyfiawn. Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd, ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd. Mae’r sawl sy’n atal y wialen yn casáu ei blentyn; mae’r un sy’n ei garu yn ei ddisgyblu o’r dechrau cyntaf. Mae gan bobl gyfiawn ddigon i’w fwyta, ond boliau gwag sydd gan bobl ddrwg.
Diarhebion 13:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor, ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth. Y mae deall da yn ennill ffafr, ond garw yw ffordd y twyllwyr. Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus, ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb. Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr, ond cennad cywir yn dwyn lles. Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth, ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd. Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas, ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg. Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid. Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid, ond daioni yw gwobr y cyfiawn. Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant, ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn. Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion, ond heb gyfiawnder fe ddiflanna. Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson. Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon, ond gwag fydd bol y drygionus.
Diarhebion 13:13-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir. Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau. Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed. Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd. Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd. Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir. Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni. Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir. Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn. Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn. Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn. Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser. Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.