Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 12:1-14

Diarhebion 12:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae rhywun sy’n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth, ond mae’r un sy’n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl! Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD, ond mae’r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo. Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd, ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy’n byw yn iawn. Mae gwraig dda yn gwneud i’w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy’n codi cywilydd arno fel cancr i’r esgyrn. Mae bwriadau’r rhai sy’n byw yn iawn yn dda, ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus. Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd, ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu, ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn. Mae person deallus yn cael enw da, ond mae’r rhai sy’n twyllo yn cael eu dirmygu. Mae’n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd. Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed ‘tosturi’ pobl ddrwg yn greulon! Bydd yr un sy’n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond does dim sens gan yr un sy’n gwastraffu amser. Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni, ond gwreiddiau’r cyfiawn sy’n rhoi cnwd. Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw, ond mae’r un sy’n gwneud y peth iawn yn osgoi trafferthion. Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae’n ei ddweud, ac yn cael ei dalu am beth mae’n ei wneud.