Y neb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw. Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe. Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga. Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef. Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt. Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif. Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir. Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara. Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw. Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth. Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder. Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.
Darllen Diarhebion 12
Gwranda ar Diarhebion 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 12:1-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos