Diarhebion 11:24-31
Diarhebion 11:24-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth, ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled. Mae’r bobl sy’n fendith i eraill yn llwyddo, a’r rhai sy’n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu. Mae’r un sy’n cadw ei ŷd iddo’i hun yn haeddu melltith, ond mae’r un sy’n ei werthu yn cael ei fendithio. Mae’r un sy’n ymdrechu i wneud da yn ennill ffafr, ond drwg ddaw ar y rhai sy’n edrych am helynt. Bydd rhywun sy’n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio, ond y rhai sy’n byw yn iawn yn blodeuo. Bydd yr un sy’n creu trwbwl i’w deulu yn etifeddu dim; bydd y ffŵl yn gaethwas i rywun sydd wedi bod yn ddoeth. Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth, fel coeden sy’n rhoi bywyd; ond mae trais yn lladd pobl. Os ydy’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn cael eu tâl ar y ddaear, beth ddaw o’r rhai drwg sy’n anufudd i Dduw?
Diarhebion 11:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen. Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill. Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd, ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu. Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr, ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn. Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth, ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd. Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ffôl yn was i'r doeth. Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd, ond y mae trais yn difa bywydau. Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear, pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?
Diarhebion 11:24-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd. Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho. Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw. Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen. Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon. Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth. Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?