Diarhebion 11:1-3
Diarhebion 11:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus, ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd. Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd; pobl wylaidd ydy’r rhai doeth. Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, ond mae twyll yn dinistrio’r rhai sy’n twyllo.
Diarhebion 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd. Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb. Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn, ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.
Diarhebion 11:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef. Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb. Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt.