Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 1:1-15

Philipiaid 1:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd â'r arolygwyr a'r diaconiaid. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch, a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd. Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr; ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu. Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal â phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau. Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, â dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch. Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist, yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw. Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl, yn gymaint â'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, a bod y mwyafrif o'r cydgredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddiofn. Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da.

Philipiaid 1:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul a Timotheus – gweision i’r Meseia Iesu. At bawb yn Philipi sy’n bobl i Dduw ac yn perthyn i’r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a’r rhai sy’n gwasanaethu yn yr eglwys: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Bob tro dw i’n meddwl amdanoch chi dw i’n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi. Dw i’n gweddïo’n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny, am eich bod chi o’r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu’r newyddion da. Felly dw i’n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. Dych chi’n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae’n naturiol mod i’n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i’n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i mi – sef y gwaith o amddiffyn a rhannu’r newyddion da am Iesu y Meseia. Dim ond Duw sy’n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi – dw i’n eich caru chi fel mae’r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi! Yr hyn dw i’n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi’n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi’n tyfu yn eich dealltwriaeth o’r gwirionedd a’ch gallu i benderfynu beth sy’n iawn. Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser, a byw yn gwbl onest a di-fai nes i’r Meseia ddod yn ôl. Bydd hynny’n dangos eich bod chi wedi’ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a’i foli. Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi’n gyfle newydd i rannu’r newyddion da. Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod mod i yn y carchar am fy mod i’n gweithio i’r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny! Ac mae’r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu’r rhai sy’n credu i fod yn fwy hyderus – does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw. Mae’n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy’n ysgogi rhai i gyhoeddi’r neges am y Meseia, ond mae eraill sy’n gwneud hynny am y rhesymau iawn.

Philipiaid 1:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi-ofn. Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da.