Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd â'r arolygwyr a'r diaconiaid. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch, a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd. Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr; ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu. Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal â phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau. Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, â dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch. Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist, yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw.
Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl, yn gymaint â'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, a bod y mwyafrif o'r cydgredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddiofn.
Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da.