Obadeia 1:1-21
Obadeia 1:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gweledigaeth Obadeia. Dyma beth mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi’i ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i’r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!” Mae’r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom: “Dw i’n mynd i dy wneud di’n wlad fach wan; byddan nhw’n cael cymaint o hwyl ar dy ben. Mae dy falchder wedi dy dwyllo di! Ti’n byw yn saff yng nghysgod y graig, ac mae dy gartref mor uchel nes dy fod yn meddwl, ‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o’r fan yma!’ Ond hyd yn oed petaet ti’n gallu codi mor uchel â’r eryr, a gosod dy nyth yng nghanol y sêr, bydda i’n dy dynnu di i lawr!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Petai lladron yn dod atat ti, neu ysbeilwyr yn y nos, fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau! Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw’n gadael rhywbeth i’w loffa? Ond byddi di’n cael dy ddinistrio’n llwyr! Bydd pobl Esau yn colli popeth; bydd y trysorau gasglon nhw wedi’u dwyn! Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo; cei dy yrru at dy ffiniau. Mae dy ‘helpwyr’ wedi cael y llaw uchaf arnat ti, a’r ‘ffrindiau’ oedd yn gwledda gyda ti wedi gosod trap heb i ti wybod.” “Bryd hynny” meddai’r ARGLWYDD, “bydda i’n difa rhai doeth Edom, a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau. Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman; fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau. O achos y lladdfa, a’th drais yn erbyn Jacob dy frawd, bydd cywilydd yn dy orchuddio, a byddi’n cael dy ddinistrio am byth. Pan oeddet ti’n sefyll o’r neilltu tra oedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo; pan oedd byddin estron yn mynd drwy ei giatiau a gamblo am gyfoeth Jerwsalem, doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw! Sut allet ti syllu a mwynhau’r drychineb ddaeth i ran dy frawd? Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda ar ddiwrnod eu difa? Sut allet ti chwerthin ar ddiwrnod y dioddef? Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl ar ddiwrnod eu trychineb? Syllu a mwynhau eu trallod ar ddiwrnod eu trychineb. Sut allet ti ddwyn eu heiddo ar ddiwrnod eu trychineb? Sut allet ti sefyll ar y groesffordd ac ymosod ar y ffoaduriaid! Sut allet ti eu rhoi yn llaw’r gelyn ar ddiwrnod y dioddef? Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos, a bydda i’n barnu’r cenhedloedd i gyd. Byddi’n diodde beth wnest ti i eraill; cei dy dalu’n ôl am beth gafodd ei wneud. Fel y gwnaethoch chi yfed ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi, bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed – yfed nes byddan nhw’n chwil. Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli. Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc – bydd yn lle cysegredig eto. Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw. Teulu Jacob fydd y tân, a theulu Joseff fydd y fflamau, a theulu Esau fydd y bonion gwellt! Byddan nhw’n eu llosgi a’u difa, a fydd neb o deulu Esau ar ôl.” –mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Byddan nhw’n cipio’r Negef oddi ar bobl mynydd Esau, a Seffela oddi ar y Philistiaid. Byddan nhw’n ennill yn ôl dir Effraim a’r ardal o gwmpas Samaria, a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead. Bydd byddin o bobl Israel o’r gaethglud yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath; a phobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell yn meddiannu pentrefi’r Negef. Bydd y rhai gafodd eu hachub yn mynd i Fynydd Seion ac yn rheoli Edom – a’r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu.
Obadeia 1:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom (clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: “Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”): “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd, ac fe'th lwyr ddirmygir. Twyllwyd di gan dy galon falch, ti sy'n byw yn agennau'r graig, a'th drigfan yn uchel; dywedi yn dy galon, ‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’ Er iti esgyn cyn uched â'r eryr, a gosod dy nyth ymysg y sêr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD. “Pe dôi lladron atat, neu ysbeilwyr liw nos (O fel y'th ddinistriwyd!), onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient? Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat, oni adawent loffion? O fel yr anrheithiwyd Esau, ac yr ysbeiliwyd ei drysorau! Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo, y maent wedi dy yrru dros y terfyn; y mae dy gyfeillion wedi dy drechu, dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti— nid oes deall ar hyn.” Ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, “oni ddileaf ddoethineb o Edom, a deall o fynydd Esau? Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman, fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau. Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob, fe'th orchuddir gan warth, ac fe'th dorrir ymaith am byth.” “Ar y dydd y sefaist draw, ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth, ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth a bwrw coelbren am Jerwsalem, yr oeddit tithau fel un ohonynt. Ni ddylit ymfalchïo ar ddydd dy frawd, dydd ei drallod. Ni ddylit lawenhau dros blant Jwda ar ddydd eu dinistr; ni ddylit wneud sbort ar ddydd gofid. Ni ddylit fynd i borth fy mhobl ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymfalchïo yn eu dinistr ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymestyn am eu heiddo ar ddydd eu hadfyd. Ni ddylit sefyll ar y groesffordd i ddifa eu ffoaduriaid; ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangodd ar ddydd gofid.” “Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun. Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd, fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid; yfant a llowciant, a mynd yn anymwybodol.” “Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol a fydd yn sanctaidd; meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun. A bydd tŷ Jacob yn dân, tŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn gynnud; fe'i cyneuant a'i losgi, ac ni fydd gweddill o dŷ Esau, oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD. Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau, a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid; byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria, a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead. Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin, yn meddiannu Canaan hyd Sareffath; a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad yn meddiannu dinasoedd y Negef. Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion, i reoli mynydd Esau; a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”
Obadeia 1:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi. Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt. Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD. Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo. Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa. Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth. Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd. Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt: Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent. Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd. Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau, a gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD.