Gweledigaeth Obadeia.
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom
(clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD;
anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:
“Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”):
“Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd,
ac fe'th lwyr ddirmygir.
Twyllwyd di gan dy galon falch,
ti sy'n byw yn agennau'r graig,
a'th drigfan yn uchel;
dywedi yn dy galon,
‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’
Er iti esgyn cyn uched â'r eryr,
a gosod dy nyth ymysg y sêr,
fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.
“Pe dôi lladron atat,
neu ysbeilwyr liw nos
(O fel y'th ddinistriwyd!),
onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient?
Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat,
oni adawent loffion?
O fel yr anrheithiwyd Esau,
ac yr ysbeiliwyd ei drysorau!
Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo,
y maent wedi dy yrru dros y terfyn;
y mae dy gyfeillion wedi dy drechu,
dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti—
nid oes deall ar hyn.”
Ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD,
“oni ddileaf ddoethineb o Edom,
a deall o fynydd Esau?
Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman,
fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau.
Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob,
fe'th orchuddir gan warth,
ac fe'th dorrir ymaith am byth.”
“Ar y dydd y sefaist draw,
ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth,
ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth
a bwrw coelbren am Jerwsalem,
yr oeddit tithau fel un ohonynt.
Ni ddylit ymfalchïo ar ddydd dy frawd,
dydd ei drallod.
Ni ddylit lawenhau dros blant Jwda
ar ddydd eu dinistr;
ni ddylit wneud sbort
ar ddydd gofid.
Ni ddylit fynd i borth fy mhobl
ar ddydd eu hadfyd;
ni ddylit ymfalchïo yn eu dinistr
ar ddydd eu hadfyd;
ni ddylit ymestyn am eu heiddo
ar ddydd eu hadfyd.
Ni ddylit sefyll ar y groesffordd
i ddifa eu ffoaduriaid;
ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangodd
ar ddydd gofid.”
“Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;
daw ar yr holl genhedloedd.
Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti;
fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.
Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd,
fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid;
yfant a llowciant,
a mynd yn anymwybodol.”
“Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol
a fydd yn sanctaidd;
meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun.
A bydd tŷ Jacob yn dân,
tŷ Joseff yn fflam,
a thŷ Esau yn gynnud;
fe'i cyneuant a'i losgi,
ac ni fydd gweddill o dŷ Esau,
oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.
Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau,
a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid;
byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria,
a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.
Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin,
yn meddiannu Canaan hyd Sareffath;
a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad
yn meddiannu dinasoedd y Negef.
Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion,
i reoli mynydd Esau;
a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”